Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Gruffydd ap Cynan

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Drylliwyd grym Gwynedd ym 1063 pan anfonwyd byddin yr iarll Sacsonaidd Harold (yn ddiweddarach y brenin Harold 1) i mewn i ogledd Cymru gan drechu Gruffydd ap Llywelyn, uchel frenin olaf Cymru; gorchfygaeth a arweiniodd at farwolaeth Gruffydd. Bachgen oedd Gruffydd ap Cynan o hyd, yn byw yn Iwerddon gyda'i fam, ac mae'n debyg i'w dad, Cynan, hefyd gael ei ladd yn rhyfel 1063. Yn yr anhrefn a ddilynodd farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn, treiddiodd y Normaniaid ymhell i mewn i ogledd Cymru o'u gorsaf yng Nghaer, yn adeiladu castell tomen a beili newydd a thrawiadol ar (neu yn ymyl) y gaer Gymreig draddodiadol yn Rhuddlan.

Tua diwedd yr 11eg ganrif dychwelodd Gruffydd ap Cynan o Iwerddon ond ychydig lwyddiant cynnar a gafodd wrth ddatgan ei hawl ar Wynedd. Mewn gwirionedd, fe'i carcharwyd yng Nghaer am gyfnod. Erbyn dechrau'r 12ed ganrif, fodd bynnag, roedd wedi adennill yn amyneddgar lawer o diriogaeth y Wynedd hynafol, yn ei hawlio i Dy Aberffraw, ac yn ddiweddarach llwyddodd i hawlio tiroedd ychwanegol islaw afon Conwy. Erbyn ei farwolaeth ym 1137 roedd hefyd yn rheoli tiriogaeth Ceredigion yn y gorllewin.

Ef oedd yr unig lywodraethwr Cymreig y cofnodwyd rhan o'i deyrnasiad gan gydoeswr, ac eto mae trafodaeth ynghylch gwir faint ei rym, ac felly ei bwysigrwydd yn hanes Cymru. Dywed Walker (1990) fod 'Gruffydd ap Cynan wedi cyflawni llawer drwy gynnydd graddol ac amyneddgar yn hytrach na thrwy fesurau arwrol a chamau mawr ymlaen, ond roedd yn ddyn a chanddo ddylanwad eang'. Yn sicr fe gysgodwyd ei weithredoedd gan ei fab mwy enwog, Owain Gwynedd, ac eto, yn ystod teyrnasiad Gruffydd bu tro ar fyd syfrdanol yn ffawd y Normaniaid, yn rhannol oherwydd trosglwyddiad grym anghyffredin o esmwyth rhwng Gruffydd a'i fab Owain.

Roedd dau ddegawd cyntaf teyrnasiad Gruffydd yn gyfnod o heddwch cymharol, pan ffynnai'r celfyddydau llenyddol wedi degawdau o ryfela rhwng y Normaniaid a'r Cymry. Daeth patrwm tebyg i'r amlwg yn ne Cymru dan arweiniad Rhys ap Gruffydd o'r Deheubarth. Yn rhydd o'r rhyfela cyson a oedd wedi parlysu Cymru gyhyd, ystyriwyd teyrnasiadau Gruffydd ap Cynan a'i fab Owain Gwynedd, ac fe'u hystyrir felly o hyd, yn rhyw fath o 'Oes Aur' i ogledd Cymru, yn parhau hyd farwolaeth Owain Gwynedd ym 1170, ac yn ne Cymru hyd farwolaeth Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys) ym 1197.

 

Llinach Tywysogion Gwynedd
Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fynegai'r brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas