Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)
Davies 1990; Walker 1990Erbyn y flwyddyn 950 Dinefwr oedd y prif lys o ble y llywodraethai Hywel Dda (a bortreadir ar y dde mewn llawysgrif o'r 13eg ganrif) ran helaeth o Gymru gan gynnwys y de-ddwyrain a adnabyddid fel y Deheubarth. Ei gamp fwyaf oedd creu cyfundrefn gyfreithiol unffurf gyntaf y wlad. Yn dilyn marwolaeth eu tad, Cadell, tua 909 rhannodd Hywel a'i frodyr diroedd yng Ngheredigion ac Ystrad Tywi. Unodd Hywel eu hetifeddiaeth yn 920 wedi marwolaeth ei frawd a daeth Gwynedd i'w feddiant yn dilyn marwolaeth Idwal Foel yn 942. Roedd yn briod ag Elen merch Llywarch o Ddyfed a phan fu farw Llywarch yn 904 fe feddiannodd deyrnas y de. O safbwynt yr Oesoedd Tywyll roedd yn dywysog pwerus ac mae'n bosib i genedlaethau diweddarach fenthyg ei awdurdod personol i atgyfnerthu eu grym eu hunain.
Fel ei daid, Rhodri Fawr, cafodd Hywel enw dodi gan genhedlaeth ddiweddarach. Daeth i gael ei adnabod fel Hywel Dda, er mai camgymeriad fyddai ystyried y daioni hwnnw i fod yn ddiniwed a dilychwyn. Yn oes Hywel hanfod gwladweinydd oedd anhrugarogrwydd, nodwedd a feddai Hywel arni os yw'n wir mai ef a orchmynnodd lofruddiaeth Llywarch o Ddyfed fel y mae rhai wedi ei honni.
Er gwaethaf diffyg tystiolaeth gyfoes nid oes yr un rheswm dros wrthod y traddodiad mai Hywel oedd yn gyfrifol am gydgyfnerthu Cyfreithiau Cymru. Ymhlith cydoeswyr Hywel roedd arweinwyr a ddaeth yn enwog fel deddfrydwyr. Cyfraith Hywel oedd cyfraith gwlad: rhoddai ei enw awdurdod i'r gyfraith, yn debyg i'r hyn a roddwyd i gyfraith y Mers gan y Brenin Offa neu i gyfraith Wessex (a rhan helaeth o Loegr) gan y Brenin Alfred. Mae'n bur debyg ei fod yn gwybod amdanynt: roedd yn ymwelydd rheolaidd â'r llys Seisnig ac yn 928, ym mlodau'i ddyndod, aeth ar bererindod i Rufain. Mewn canrifoedd diweddarach fe honnid iddo gymryd copïau o'i gyfraith i Rufain, lle y'u bendithiwyd gan y Pab. Cyfrannodd traddodiad hefyd fanylion am amgylchiadau llunio a chyhoeddi'r deddfau.
Mae'n debyg mai'r angen i ddod ag unffurfiaeth i'w wahanol diriogaethau a ysgogodd Hywel i gyfundrefnu'r gyfraith. Fe lwyddodd hefyd i amddiffyn ei diriogaethau gan nad oes yr un cofnod iddynt gael eu hysbeilio gan y Llychlynwyr (Vikings) yn ystod ei deyrnasiad. Nid ymosododd y Saeson arnynt ychwaith. Parhaodd Hywel â'r berthynas agos â Lloegr a gychwynnodd ei dad-yng-nghyfraith, Llywarch o Ddyfed, ac eto mae'n annhebygol iddo werthfawrogi'r gostyngiad yn ei statws a'r galw am wrogaeth helaeth a ddeuai yn sgil y cysylltiad hwn â theyrnas L loegr. Roedd yn cydnabod ffeithiau grym - grym a ddifaodd deyrnas Frythoneg Cernyw yn ystod ei oes ac a achosodd farwolaeth ei gefnder, Idwal o Wynedd.
Fe oroesodd teyrnas y Deheubarth wedi ei farwolaeth ac yn 950 fe'i trosglwyddwyd i'w fab Owain. Dychwelodd Gwynedd a Phowys i linach Idwal ap Anarawd tra y parhai Morgannwg dan reolaeth ei brenhinoedd ei hun. Er i'r undeb rhwng Gwynedd, Powys a'r Deheubarth gael ei dorri, dim ond tri brenin oedd yng Nghymru ar ôl 950, o'i gymharu â dwywaith y nifer honno ddwy ganrif ynghynt.
Llinach Hywel Dda ac arweinwyr y Deheubarth (gweler Gwynedd hefyd)
Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fwydlen y brif dudalen
![]()
Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas