Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Llywelyn ap Gruffydd

Llywelyn ein Llyw Olaf

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Llywelyn ab Iorwerth cafwyd dirywiad sylweddol yn nhynged Gwynedd, yn arwain yn y diwedd at Heddwch Woodstock, a gytunwyd gyda Brenin Henri III ym 1247, flwyddyn ar ôl marwolaeth Dafydd, mab Llywelyn. Yn ôl amodau'r cytundeb fe gollodd Gwynedd yr holl diroedd a oedd ganddi i'r dwyrain o Afon Conwy.

Ym 1255 gorchfygodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr Owain (m.1282) a Dafydd (m.1283) mewn brwydr ym Mryn Derwin. Fe garcharwyd Owain, ac aeth Llywelyn ati i ail-sefydlu awdurdod Gwynedd ac yna ei ymestyn i fod yn oruchafiaeth dros y rhan fwyaf o Gymru. Ym 1267 fe gydnabyddwyd ei safle fel uwch-arglwydd gan Henri III yng Nhytundeb Trefaldwyn pan dderbyniodd y brenin Saesneg wrogaeth Llywelyn fel tywysog Cymru. Treuliodd Llywelyn y deng mlynedd nesaf yn ceisio cyfnerthu a chynnal ei safle ac erbyn 1277 roedd yn rheoli tri chwarter arwynebedd Cymru; sefyllfa a barai gryn bryder i frenin Lloegr.

Fe ddechreuodd Llywelyn ei ymgyrch gestyll ei hun drwy atgyfnerthu cestyll ei daid yng Nghricieth, Ewlo a Dolwyddelan. Yn fwy, ym 1273 fe ddechreuodd adeiladu castell newydd yn Nolforwyn yn uchel uwchben dyffryn Hafren, yn herio'r safle brenhinol ar y ffin yn Nhrefaldwyn. Dim ond megis un digwyddiad mewn cyfres o anghytundebau gyda'r brenin newydd oedd gwrthodiad y tywysog i roi'r gorau i'r cynllun hwn.

Ddeng mlynedd ar ôl ei gydnabod yn dywysog Cymru gan Henri III fe brofodd Llywelyn orchfygaeth waradwyddus wrth law y brenin newydd, Edward I. O'r cychwyn, ymddangosai bod Llywelyn yn mynd ati'n fwriadol i ennyn dig Edward. Yn arbennig, gwrthododd dalu gwrogaeth ac ildio'r taliadau ariannol a oedd yn ddyledus i'r brenin yn unol ag amodau Cytundeb Trefaldwyn. Fe demptiodd ffawd ymhellach drwy drefnu i briodi Eleanor, merch y barwn gwrthryfelgar, Simon de Montfort, gweithred a oedd i brofi amynedd Edward i'r eithaf.

Digon oedd digon ac erbyn 1276-77 roedd Edward wedi penderfynu rhoi trefn ar y tywysog Cymraeg anhydrin. Fe aeth Edward ei hun i'r gad yng Nghaer ym mis Gorffennaf 1277, ac erbyn mis Awst roedd ganddo rhyw 15,600 o filwyr yn ei fyddin. Yn nannedd yr anfanteision hyn nid oedd gan Llywelyn ddewis ond ymbil am heddwch. Roedd Cytundeb Aberconwy, a ddaeth yn sgil hyn, yn warth pur i dywysog Cymru. Wedi ei amddifadu o'r uwch-arglwyddiaeth a enillodd ddeng mlynedd ynghynt roedd Gwynedd unwaith eto wedi ei lleihau i'w bro draddodiadol i'r gorllewin o Afon Conwy.

Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd, brawd Llywelyn ar gastell Penarlâg gan gychwyn rhyfel 1282-83. Fe wynebai Llywelyn argyfwng amhosib bron. Yn cael ei dynnu rhwng ei wrogaeth i'r brenin a'i deyrngarwch i'w frawd a'i bobol fe ochrodd Llywelyn â'i frawd i arwain gwrthsafiad Cymraeg i'r ymosodiad anochel gan Edward I. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd Llywelyn yn farw, wedi ei ladd ar 11 Rhagfyr mewn gwrthdrawiad byr â lluoedd Seisnig ym Mhont Irfon, yn ymyl Llanfair ym Muallt. Gosodwyd maen coffa (ar y dde) yn ymyl maes brwydr olaf Llywelyn, maen Cilmeri.

 

 

 

 

 

Mwy o wybodaeth am Ryfelodd Annibyniaeth Cymreig

  • Cysylltiad i dudalen Castell Fflint
  • Cysylltiad i dudalen Castell Deganwy
  • Cysylltiad i dudalen Castell y Bere
  • Llywelyn yn erbyn Gilbert de Clare

  • Llinach Llywelyn ap Gruffydd/Gwynedd
  • Yn ôl i'r mynegai cestyll
  • Yn ôl i fwydlen y brif dudalen

     


    Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

    Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas

  •