Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Abaty Cwmhir

5 1/2m i'r gogledd o Landrindod Wells, Powys, canolbarth Cymru
SO 055 711

Llun Hawlfraint © 2002 gan Jeffrey L. Thomas.

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Williams 1985; Hermitage Day 1911; Radford 1982

Gorwedd adfeilion Abaty Cwmhir yn nyffryn diarffordd afon Clywedog mewn man unig a hynod ddeniadol sy'n nodweddiadol o'r safleoedd a ddewiswyd gan yr urdd Sistersiaid. Mae hanes cynnar yr abaty braidd yn ansicr; mae'n debyg y gwnaethpwyd ymdrech aflwyddiannus i sefydlu cangen o abaty Hendy-gwyn ar Daf ym 1143, efallai ar safle yn Nhy Faenor, rhyw filltir i'r dwyrain. Fodd bynnag, dyddia'r sefydliad parhaol yn ôl i 1176, mae'n debyg o dan nawdd Cadwallon ap Madog o Faelienydd, fel y gelwid y rhan hwn o Bowys yn y cyfnod hwnnw. Yn y blynyddoedd cynnar fe amrywiai cymwynaswyr yr abaty gyda ffawd y Cymry a'r Saeson yn y gorordir hwn, er mae'n debyg i gyfnod o sefydlogrwydd dan Llywelyn ap Iorwerth, ynghyd â'i uchelgais gwleidyddol yn yr ardal, hybu rhaglen uchelgeisiol o adeiladu nas cwblhawyd yn y 13eg ganrif. Ymhen amser daeth Cwmhir i ddwylo teulu pwerus Mortimer, a'i amddifadodd er budd Abaty Wigmore. Nid adferwyd ef erioed yn llawn rhag y difrod a wnaethpwyd ym 1402 yn ystod chwyldro Owain Glyndwr.

 

Isod: beddfaen Llywelyn ap Gruffydd.

Yn ôl traddodiad fe gladdwyd corff Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn yr abaty wedi ei farwolaeth ger Llanfair ym Muallt ym 1282; mae beddfaen modern yn yr ochr ddwyreiniol yn coffau hyn. Yr unig gofeb sy'n weddill o'r safle yw carreg fedd neu gaead arch, a welir yn y fynwent yn dwyn yr arysgrif: Yma y gorwedd Mabli y bo Duw'n drugarog i'w henaid.

Mae adfeilion waliau'r eglwys, unig olion gweladwy'r abaty, yn swatio wrth droed y llethr islaw'r lôn. Fe gloddiwyd yr eglwys, a rhannau eraill o'r safle, yn eang ar brydiau yn ystod y 19ed ganrif, gan gadarnhau honiad Leland yn yr 16eg ganrif 'na chwblhawyd un rhan o dair o'r gwaith'. Er mai ychydig yw'r olion, yr hyn sy'n taro'r llygaid yn syth yw hyd arbennig corff yr eglwys gyda 14 cilfach, wedi'i gynllunio, yn ôl Leland, ar gyfer 60 o fynaich. Mae'n debyg i'r abaty syrthio ymhell o dan y cwota uchelgeisiol hwn yn ystod y rhan fwyaf o'i oes, ac erbyn y diddymiad ym 1536, dim ond tri mynach oedd ar ôl. Disodlodd y corff a'r eiliau ochr, rhan o gynllun y 13eg ganrif, eglwys gynharach a safai, mae'n debyg, ar ran ddwyreiniol yr eil ddeheuol, gydag adenydd ychydig i'r gorllewin o'r llinell diweddarach. Ni chwblhawyd pen dwyreiniol yr eglwys newydd y tu draw i wal orllewinol y croesiad a'r adenydd, y caewyd eu bwa canolog. Gosodwyd yr uwch allor, y côr a lle i'r brodyr lleyg i gyd yng nghorff yr eglwys. Yn dilyn ymosodiad 1402 mae'n debyg mai dim ond y pum cilfach mwyaf dwyreiniol, yn cynnwys y côr a'r uwch allor, a ddefnyddiwyd yn rheolaidd.

Hyd yn oed wedi'r diddymiad mae hanes y safle'n frith. Ym 1565 daeth i ddwylo'r teulu Fowler, ac ym 1644, yn ystod y Rhyfel Cartref, daeth yr adeiladau mynachlogaidd dan warchae ac fe'u cipiwyd gan luoedd Seneddol dan arweiniad Sir Thomas Myddelton. Yn dilyn hyn, mae'n debyg iddynt gael eu dymchwel neu eu gadael a symudodd y teulu Fowler i Dy Faenor. Mae'n bosib mai tomen wastraff o'r cloddio wedi'i haddasu i'r tirlun yw'r twmpath i'r de-orllewin o'r eglwys.

 

Yn ôl i'r mynegai abatai

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas