Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Cestyll Brodorol Cymreig

   
Castell Ewlo		               Castell Dinefwr

Gan Lise Hull @ Hawlfraint 1995

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Mae ymwelwyr i Gymru yn gyfarwydd 'r cestyll Normanaidd ac Edwardaidd sy'n tra-arglwyddiaethu ar y wlad. Yn wir, arglwyddiaethu oedd un o'r rhesymau dros eu hadeiladu - rheoli, brawychu a gorchfygu'r boblogaeth leol. Er eu bod yn llai adnabyddus na'u cymheiriaid Eingl-Normanaidd, cafodd y cestyll Cymreig, a oedd yn bwerus ynddynt eu hunain, gryn ddylanwad ar y wlad yn y Canol Oesoedd. Maent yn oroeswyr hynod ddiddorol o dreftadaeth llawn gwrthdaro - nid yn unig gyda gorchfygwyr o'r tu allan, ond hefyd rhwng brodyr tywysogaidd yn cystadlu am reolaeth dros eu hetifeddiaeth.

Mae darganfod y cestyll Cymreig yn brofiad cyffrous a dadlennol, gan eu bod yn cyflwyno agwedd o hanes Cymru a ddiystyrir yn aml; agwedd sy'n sicr yn llai adnabyddus na hanes y concwerwyr gorchfygol, ond un sydd yr un mor gynhyrfus, dryslyd ac arwyddocaol. Nid oedd sn am gestyll Cymreig cyn y mewnlifiad Normanaidd, er bod safleoedd amddiffynnol yn gyffredin. Roedd canolfannau gweinyddol Cymreig, y cwmwd neu'r llys, yn rhannol gaerog, wedi'u hamgau muriau cerrig, ac yn Oes yr Haearn roedd Cymru'n frith o gloddweithiau a elwir yn fryngaerau.

 

Ar y dde: Map o Gestyll Brodorol Cymreig

 

Y Prif Gestyll Cymreig
Castell Caergwrle
Castell Carreg Cennen
Castell y Bere
Castell Cricieth
Castell Deganwy
Castell Dinas Bran
Castell Dinefwr
Castell Dolbadarn
Castell Dolforwyn
Castell Dolwyddelan
Castell y Dryslwyn
Castell Ewlo
Castell Nanhyfer
Castell Newydd Emlyn

 

Gyda'r Normaniaid daeth gorchfygiad ar ffurf cestyll tomen a beili; caerau pridd a phren a oedd yn hawdd a sydyn i'w hadeiladu. Adeiladwyd cannoedd o'r cestyll hyn ar hyd a lled Cymru ac fe'u gwelir bron ymhobman (heb eu hamddiffynfeydd pren). Mabwysiadodd y Cymry'r dull hwn o adeiladu gan eu penarglwyddi, ac fel y Normaniaid, daethant i weld yn fuan y manteision o atgyfnerthu eu cestyll charreg.

Mae cestyll Cymreig yn tueddu i fod yn llai gormesol a llai moethus eu cynllun. Y rheswm am hyn oedd diffyg arian ar gael i'r tywysogion Cymreig ynhyd diffyg penseiri a chrefftwyr eraill a gonsgriptiwyd gan y Normaniaid. Ar ben hynny, yn l un ffynhonnell:

"Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried y posibilrwydd fod yna anfodlonrwydd mud, wrth gynllunio'r cestyll hyn, i ymgymryd rhaglen uchelgeisiol o amddiffyn caerog rhag achosi adwaith elyniaethus yn yr ochr arall (digwyddodd hyn yng Nghastell Dolforwyn)."
"Uwchlaw'r holl ystyron hyn, fodd bynnag, roedd gwahaniaeth hollbwysig rhwng dau ddiwylliant. Yng Nhymru roedd yr ymrwymiad rhwng arglwydd a'i ddilynwyr yn bennaf seiliedig ar berthyn; yn Lloegr, roedd awdurdod yn cael ei gynnal i raddau helaeth drwy ddychryn a grym arfau."
Adlewyrchir y gwahaniaethau hyn yn uniongyrchol yn y dulliau nodweddiadol a fabwysiadwyd wrth adeiladu cestyll. Mae gan gestyll y tywysogion Cymreig amryw o nodweddion cyffredin sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth eu cymheiriaid Seisnig. Dyfeisgarwch oedd un o'r prif nodweddion a roddodd y Cymry ar waith yn llwyddiannus wrth adeiladu cestyll.

Un fantais i'r Cymry yn erbyn ymosodiad effeithiol oedd tirwedd garw eu mamwlad. Daeth adeiladwyr y cestyll i ddibynnu ar dirwedd digroeso'r wlad fel prif ddull o amddiffyn. O ganlyniad, roedd caerau Cymreig yn unig, yn aml yn sefyll ar gerrig brig, ac wedi eu hamddiffyn gan glogwyni serth a ffosydd dyfnion. Yn ogystal, tueddai'r cestyll Cymreig i fod yn llai ac yn anghyson eu cynllun; yn gyffredinol yn cynnwys un ward yn unig; yn dibynnu ar orthwr deulawr fel prif loches a phreswylfa; ac, yn fwyaf nodweddiadol, yn cynnwys cynllun newydd - y twr cromfannol.

Roedd yr adeilad siap D hirfain yn gyfuniad cywrain a deallus o ddau gynllun mwy bregus (y twr crwn a'r gorthwr hirsgwar) ac 'roedd iddo nifer o agweddau defnyddiol. Roedd y pen crwn yn llai agored i niwed ac yn ehangu maes tanio'r amddiffynnwr, tra bod yr ochr sgwar yn caniatau ymestyn yr ystafelloedd mewnol i roi mwy o le byw ac anadlu. Yn ddiddorol, tra bod llawer o gestyll Seisnig yn defnyddio grisiau troellog i symud o'r naill lefel i'r llall, roedd y rhan fwyaf o'r cestyll Cymreig yn cynnwys grisiau syth wedi eu gosod yn y waliau mewnol. Dilynwch y cysylltiad hwn i weld croes-doriad o dwr Cymreig siap D.

Yn rhyfedd, ychydig ddefnydd a wnaethpwyd yn y rhan fwyaf o'r cestyll Cymreig o un rhinwedd amddiffynnol arbennig - porthdy caerog (mae Cricieth yn eithriad trawiadol) - cynllun a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn llawer o gestyll Seisnig. Fodd bynnag, byddai lleoliad simsan y cestyll Cymreig wedi caniatau gwyliadwriaeth dros gylch eang a digonedd o amser i baratoi ar gyfer ymosodiad.

Mae archwilio cestyll Cymreig yn antur pur! Mae lleoliad unig, digroeso'r caerau yn brofiad i ymwelwyr cyfoes: ar unwaith rydych yn teimlo'r wefr o weld rhywbeth rhyfeddol am y tro cyntaf, a'r boddhad o daclo her amddiffynfeydd naturiol y safle (neu ansicrwydd ei leoliad). Yn anad dim, fe'ch syfrdanir gan ymdeimlad o egni hanesyddol a darluniau o'r rhyfela a'r goroesi a lanwai'r adeiladau gwych hyn.

Mae Lise Hull yn berchen ar "Castles of Britain," mudiad sy'n astudio ac yn hybu Cestyll Prydeinig.

 

Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Lise Hull and the Castles of Wales Website