Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
gan Daniel Mersey
(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)
Ar y dde: Llywelyn ap Gruffydd, wedi ei bortreadu mewn llawysgrif enwog o'r Oesoedd Canol
hawlfraint © gan Daniel Mersey
Roedd ymgyrch Llywelyn ym 1282 yn profi'n llawer mwy llwyddiannus nag ymgyrch 1277 yn erbyn Edward. Y tro hwn, roedd ganddo well ddealltwriaeth o dactegau'r Saeson (ym 1277 methodd yn ddybryd â mesur grym brenin diweddaraf Lloegr), ac nid oedd ei gynghreiriad wedi diflannu gyda'r arwydd cyntaf o wrthdaro ychwaith! Roedd buddugoliaeth y Cymry wrth Afon Menai wedi bod yn hwb ysbrydol: roedd Luke de Tany wedi rhuthro'i filwyr yn fyrbwyll dros y bont a adeilwyd gan y Saeson rhwng Bangor ac Ynys Môn - ble y'u rhagodwyd a'u trechwyd gan amddiffynwyr Cymreig. Gan ddefnyddio hyn i'w fantais ei hun, llwyddodd Llywelyn i'w ryddhau ei hun rhag y fyddin Seisnig a'i amgylchynai, a throdd tua'r Canolbarth. Ei fwriad oedd sefydlu cynghreiriau ac ennill cefnogaeth er mwyn uno Cymru gyfan (fel y gwnaeth ei daid, Llywelyn ab Iorwerth, yn gynharach yn y 13eg ganrif). Mewn gwirionedd, byddai digwyddiadau'n arwain at ganlyniad tra gwahanol, yn dinistrio unrhyw obaith realistig o gadw Cymru'n dywysogaeth annibynnol.
Isod: arfbais Llywelyn ap Gruffydd
Symudodd byddin Llywelyn ar draws gwlad gan gadw at dir uchel - roedd marchfilwyr trymion y Saeson dan anfantais yn y math hwn o diriogaeth. Ar 11 Rhagfyr 1282 meddiannai gwyr Llywelyn y bryniau uwchben afon Irfon, heb fod yn bell o Lanfair ym Muallt. Meddiannai'r Cymry hefyd bont dros yr afon, gan rwystro unrhyw ymosodiad uniongyrchol yn eu herbyn. Nid ymosododd gwyr Llywelyn yn y dyffryn isel, ond dygasant gyrchoedd ar yr ardaloedd o amgylch. Amddiffynwyd castell Llanfair ym Muallt yn gadarn gan y Saeson, ac yn fuan dynesodd llu Seisnig tuag at safleoedd y Cymry. Roedd tua 7,000 o filwyr Cymreig a 160 o aelodau o deulu Llywelyn; dim ond 5,000 o filwyr Seisnig oedd dan reolaeth Edmund Mortimer, John Giffard a Roger l'Estrange, ond roedd ganddynt 1300 o farchfilwyr. Ar ddiwrnod tynghedus 11 Rhagfyr, roedd Llywelyn yn absennol oddi wrth ei brif lu - efallai ei fod yn sgowtio, neu'n mynychu cyfarfod â chynghreiriaid posibl (yn ôl y chwedl, fe'i hudwyd yn fradwrus oddi wrth ei brif lu, ond nid oes dim i brofi hyn). Yn absenoldeb Llywelyn, fe symudodd y Lloegrwys ar safle Gymreig gref, a dangoswyd iddynt, gan Gymro sympathetig, ryd ymhellach ar hyd yr afon. Yn y modd hwn fe'u galluogwyd i symud o'r tu ôl ar y bont a oedd yng ngofal y Cymry, a chipio'r safle tyngedfennol (gan roi mynediad agored i'r fyddin gyfan ar draws yr afon). Yn y cyfamser, ar y bryn fe ddaliodd y Cymry eu tir yn gadarn - fe awgrymir eu bod yn ddi-arweinydd ac mewn dryswch yn absenoldeb Llywelyn, er ei bod yn fwy tebygol iddynt wybod mai'r bryn oedd eu safle cryfaf ac y byddai colli'r fantais hon yn sicr o arwain at eu trechu.
Wrth i'r fyddin Gymreig sefyll mewn rhengoedd clos (tactegau tebyg iawn i fyddinoedd yr Alban), fe symudodd y saethwyr Seisnig ymlaen a bwrw ati i saethu'r picellwyr Cymreig i'r llawr. Roedd gan y Cymry rai saethwyr eu hunain, ond nid oes sôn amdanynt yn gallu gwneud unrhyw argraff. Wrth i'r Cymry golli ysbryd, colli trefn a gwanhau fe ymosododd y marchogion a'r marchfilwyr trymion (rhai o'r tu ôl, gan eu bod wedi gweithio'u ffordd o amgylch y bryn). Ffodd y Cymry. Roedd ymosodiad marchfilwyr trymion wedi i arfau tafl greu anhrefn ymysg y gelyn yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol o ymdrin â rhengoedd clos o filwyr troed yn y cyfnod ffiwdal - fe'i defnyddiwyd dro ar ôl tro, er enghraifft yn Hastings ym 1066, yn Falkirk ym 1298, ac yn Homildon Hill ym 1402. Fe ddefnyddiodd Edward I a'i gadlywyddion y dacteg gan fwyaf yn erbyn yr Albanwyr, ond hefyd yn erbyn y Cymry pan safent yn gadarn; anaml iawn y bu i'r dacteg fethu (hyd yn oed os mai dim ond cael a chael oedd ambell frwydr).
Ar y dde: y gofeb i Lywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri a gysegrwyd yn 1956. Fe'i trywanwyd gan bicell marchfilwr o Sir Amwythig ar 11 Rhagfyr 1282.
(Ffotograff hawlfraint @ 1997 gan Daniel Mersey)Yn nryswch y frwydr fe laddwyd Llywelyn: fe gredir iddo geisio dychwelyd at ei brif lu i ail-afael yn yr awenau wedi clywed swn y frwydr, ond ymosodwyd arno gan filwyr Seisnig. Fe gofnodir mai ei lofrudd oedd Stephen de Frankton, marchfilwr Seisnig o Ellesmere; mae'n debyg nad adnabu Lywelyn (a oedd yn gwisgo tiwnic nid arfwisg - roedd wedi bod yn sgowtio neu'n paratoi ar gyfer cyfarfod) a'i fod wedi ei drywannu â phicell. Mae cerdd yn cofnodi bod gosgordd o ddeunaw gyda Llywelyn ar adeg ei farwolaeth - pa un ai gwarchodlu ynteu ei gadlywyddion ar y bryn oedd y rhain ni wyddom. Anfonwyd pen Llywelyn i Edward, ac yna ymlaen i'w arddangos yn Nhwr Llundain - y safle traddodiadol i arddangos pennau bradwyr.
Mae brad bellach yn anodd i'w brofi neu i'w wrth-brofi: y cwestiwn perthnasol yw 'pwy a gyflawnodd y weithred ysgeler'. Ni ellir mewn gwirionedd ystyried penaethiaid lleol Llanfair ym Muallt; golygai rheolaeth y Saeson yn yr ardal nad ystyrid hwynt yn llawer o rym. Roedd gan Ddafydd, brawd Llywelyn, hanes o fradychu Llywelyn, ac yn wir fe'i enwir fel y cnaf mewn chwedloniaeth yn diweddarach - fodd bynnag, mae'n rhaid cofio nas cyhyddwyd gan unrhyw gyfoeswr. Awgryma Morris (1905) y gallai'r teulu de Mortimer fod ynglwm â'r mater - roeddent yn gynghreiriaid i de Monfort yn y 1260au, fel Llywelyn ei hun, ac mae'n bosib iddynt lwyddo i'w ddenu oddi wrth ei fyddin. Os felly, bwriad y brad hwn oedd denu Llywelyn oddi wrth ei brif lu a'i ragodi, ond ni allwn fod yn sicr o hyn.
Fodd bynnag, bu farw Llywelyn a, phwy bynnag a'i lladdodd, y peth pwysig i'w gofio yw nad oedd mwyach yn fygythiad i Edward I. Fe gyhoeddwyd Dafydd, brawd Llywelyn, yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr, ond fe'i bradychwyd, fe'i daliwyd ac fe'i dienyddiwyd ym 1283. Roedd y fyddin Gymreig wedi ei threchu'n llwyr ym Mhont Irfon a llwyddodd Edward i wireddu ei uchelgais o uno Lloegr a Chymru dan un brenin - gan greu teyrnas lawer cryfach i'w olynwyr ei hetifeddu.
Roedd Gruffydd ap yr Ynad Coch yn un o lawer o feirdd Cymraeg i ysgrifennu am farwolaeth Llywelyn. Fe ddaw'r canlynol o Farwnad Llywelyn ap Gruffydd, sydd wedi'i gyfieithu i'r Saesneg yn 'L ITERATURE OF THE K YMRY' gan D S Evans (1876: 370-371):
'Gwersyll Cadwaladr, gwaesaf llif daradr
Ys mau llid wrth Sais am fy nhreisiaw...
Arglwydd a gollais, gallaf hirfraw,
Arglwydd teÿrnblas a las o law,
Arglwydd cywir gwir, gwarandaw - arnaf.
Uched y cwynaf, och o'r cwynaw!!
Arglwydd llwydd cyn lladd y deunaw.
Arglwydd llary, neud llawr ysy daw.
Arglwydd glew fal llew yn llywiaw - elfydd...
Nid oes le y cyrcher rhag carcher braw
Nid oes na chyngor na chlo nac egor?...
Pen pan las, ni bu gas gymraw.'
Daniel Mersey
e-bost: dsm26@cam.ac.uk
Darllen pellach::
Evans, DS 1876 LITERATURE OF THE KYMRY
Heath, I 1989 ARMIES OF FEUDAL EUROPE 1066-1300 (2nd Ed)
Mersey, DS 1996 'Death of a Prince' WARGAMES ILLUSTRATED 100
Mersey, DS 1997 'Medieval Welsh Warriors and Warfare' THE CASTLES OF WALES
Morris, JE 1905 THE WELSH WARS OF EDWARD I
Newark, T 1986 CELTIC WARRIORSErthyglau eraill gan Dan Mersey
Manylion pellach am farwolaeth Llywelyn:
Fe gynhwysir y detholiad canlynol drwy gwrteisi John Richards o Glastonbury. Bu Mr Richards yn bresennol yn seremoni cysegru'r gofeb i Lywelyn ap Gruffydd yn 1956.Bulletin of the Board of Celtic Studies, vol.5, 1931, pp.351-52. The Death of Llywelyn ap Gruffydd.
Y drydedd ffynhonnell ar gyfer digwyddiadau'r diwrnod hwn (diwrnod marwolaeth Llywelyn) yw'r llythyr a ysgrifennwyd gan yr Archesgob Peckham o Pembridge yn Swydd Henffordd at y brenin (Edward I) ar 17 Rhagfyr (Register, golyg. C.T.Martin, ii 489-90). Roedd Llywelyn wedi marw'n esgymunedig, ond gwnaed apêl am faddau ei bechodau, fel y gellid ei gladdu mewn tir cysegredig, i'r Archesgob gan Maude Clifford, a oedd ar unwaith (drwy ei hail briodas) yn wraig i gwnstabl Llanfair ym Muallt, John Giffard, a, drwy ei mam, yn gyfnither gyntaf i'r tywysog marw.
"I'm Arglwydd, y brenin. I'r anwylaf Arglwydd Edward, drwy ras Duw Brenin Lloegr, Arglwydd Iwerddon, Dug Aquitaine, y Brawd Ioan, drwy ganiatad Duw, Archesgob Caergaint, Archesgob Holl Loegr, cyfarchion a pharch o'r mwyaf.Arglwydd,
Gwybyddwch bod y rhai a oedd yn bresennol ar adeg marw Llywelyn wedi darganfod, ynghudd ar ei gorff, rhai pethau bychain yr ydym ni wedi eu gweld. Ymysg eraill yr oedd llythyr bradwrus, yn cuddio y tu ôl i enwau ffug. Ac er rhybudd i chwi, rydym yn anfon copi o'r llythyr i Esgob Caerfaddon, ac mae'r llythyr ei hun gan Edmund de Mortemer, gyda chyfrin sêl Llywelyn, a chwi a gewch y pethau hyn pan fynnoch.
Erfyniwn na fydd i neb ddioddef marwolaeth na llurguniad o ganlyniad i'r wybodaeth sydd gennym, ac y bydd yr hyn a anfonwn atoch yn gyfrinachol. Yn ogystal, Arglwydd, gwybyddwch bod y Foneddiges Maud Langespye wedi erfyn arnom drwy lythyr i faddau pechodau Llywelyn, fel y gellir ei gladdu mewn tir cysegredig, a'n bod wedi anfon gair ati na wnaem ddim oni ellid profi iddo ddangos gwir edifeirwch cyn ei farwolaeth. Dywedodd Edmund de Mortemer wrthyf ei fod wedi clywed gan ei weision, a oedd yn bresennol ar adeg ei farwolaeth, iddo ofyn am offeiriad cyn marw; ond heb fod yn sicr ni wnawn ddim. Yn ogystal, Arglwydd, gwybyddwch i fynach gwyn ganu offeren iddo ar yr union ddiwrnod y'i lladwyd, ac mae gan f'Arglwydd Roger de Mortemer yr urddwisgoedd.
Yn ogystal, Arglwydd, erfyniwn arnoch i dosturio wrth glerciaid, na oddefwch eu lladd, na'u hanafu. A gwybyddwch, Arglwydd, Duw a'ch gwaredo rhag drwg, oni rwystrwch yr hyn sydd o fewn eich grym, chwi a fyddwch euog, gan fod goddef yr hyn y gellir ei rwystro gyfystyr â chydsynio. Ac felly, Arglwydd, erfyniwn arnoch i ganiatau i'r clerciaid sydd yn Eryri fynd ymaith i geisio pethau gwell yn Ffrainc a thu draw. Os digwydd i'r clerciaid dioddef niwed wrth, neu ar ôl ei goresgyn, oherwydd y credwn y bydd Eryri yn eiddo i chi, fe'ch cyhuddir chi o'r weithred gan Dduw, fe lychwinir eich enw da, ac fe'n hystyrir ni yn llyfrgwn.
Os gwêl eich Arglwydd yn dda, rhowch eich bendith ar hyn a ni a wnawn yr hyn sydd o fewn ein gallu. A gwybyddwch, Arglwydd, oni fodlonwch ein gweddi, fe berwch i ni ofid na'n gwaredir ni rhagddo yn y byd hwn. Arglwydd, Duw a'ch cadwo a phopeth a berthyn i chwi."
Ysgrifennwyd y llythyr hwn yn Pembridge, ddydd Iau yn dilyn dydd Gwyl Lucy.
Erthyglau pellach gan Dan Mersey
Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fwydlen y brif dudalen
Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Copyright © 2009 by Daniel Mersey and the Castles of Wales Website