Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Pen Y Bryn
Twr y Tywysogion

Hawlfraint 1998 gan Jennifer Rachel Conover

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Isod i'r dde: Plasty Pen y Bryn gyda'r twr ar y dde.
Llun hawlfraint gan Jennifer Rachel Conover.

dnabyddir Cymru ers amser maith fel gwlad hud a lledrith, gwlad sy'n cuddio'i chyfrinachau yn ei bryniau pantiog. Pen y Bryn, Twr y Tywysogion, yw'r trysor diweddaraf ac un o'r rhai mwyaf cyfareddol i ddod i'r amlwg. Ym 1992 prynodd Kathryn a Brian Pritchard Gibson fferm ieir tri deg a chwech o erwau gyda phlasty Elisabethaidd yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif ac mae wedi newid eu bywydau'n syfrdanol. Mae'r plasty carreg a'r adeiladau allan yn swatio'n erbyn bryn coediog yn Eryri. Mae ychydig i'r gogledd o Fangor uwch glannau Abergwyngregyn, yn edrych dros Afon Menai gyda'r mynyddoedd yn ffurfio llen ôl amddiffynnol (y tu ôl iddo). Medd Kathryn Gibson, 'Yn ôl pob sôn mae'r bobol leol wastad wedi galw'r ty'n 'Dwr Llywelyn'. Dywedwyd wrthym mai yno y trigai'r tywysogion ac oddi tano mae safle Rhufeinig a chaer o'r Oes Efydd. Pan ofynnwyd sut y cawsant y wybodaeth hon roedd yr ateb wastad yr un fath, 'dywedodd Nain wrtha'i'. Dim ond yr academyddion a anwybyddodd y chwedl leol a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd.

Pan welwch y ty am y tro cyntaf mae'n amlwg mai'r twr yw'r rhan hynaf o bell ffordd. Gallwch weld hefyd ble y mae ffenestri a drysau wedi'u cau. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng y cerrig yn y twr a'r rhai yng ngweddill y ty, ond dim ond yn ddiweddar daeth cadarnhad bod y twr yn wir yn dyddio'n ôl i gyfnod Llewelyn. Yn fuan wedi symud i mewn sylwodd y Gibsons ar swn gwag yn rhan o lawr yr ystafell fyw. Wrth godi styllod darganfuasant yn fuan risiau cudd, ystafelloedd dirgel, waliau gweigion, twnneli, hanesion tywysogion a charcharorion, cariadon a rhyfel. Fel y dywed Kathryn Gibson, 'Rydym yn byw yng nghanol jig-so hanesyddol anferth'. Mewn gwirionedd Pen y Bryn yw palas colledig y Tywysogion Llywelyn, Llywelyn Fawr a'i wyr Llywelyn ein Llyw Olaf yn dyddio'n ôl i 1211. Yma y bu fyw a marw Siwan, merch y Brenin John a gwraig Llywelyn Fawr, ac mae'n allwedd i hanes trasig Gwenllian, unig wir Dywysoges Cymru ac unig ferch Llywelyn ein Llyw Olaf. Yn anfodlon roedd y goron Seisnig wedi rhoi teitl 'Tywysog Cymru' am byth i Llywelyn yng Nhytundeb Trefaldwyn ym 1267. Fodd bynnag, rai blynyddoedd wedyn adfeddiannodd Edward I y teitl a'i roi i'w fab ei hun, Edward II. Ordeiniwyd tynged y Dywysoges ym 1282 wedi i'r Saeson ymosod yn fradwrus ar Llywelyn ein Llyw Olaf a'i ladd. Yn dilyn hynny gorchmynodd Edward i'r Dywysoges amddifad gael ei herwgipio o'r plasty. Nid oedd ond naw mis oed ar y pryd ac wedi'i thynghedu i dreulio gweddill ei phumdeg a phedwar o flynyddoedd o'r neilltu mewn priordy o'r urdd Gilbertaidd. Mae'n debyg y byddai Edward wedi peri iddi hithau gael ei lladd hefyd oni bai am eu perthynas drwy waed. Roedd ei mam, ei gyfnither Eleanor, wedi marw wrth roi genedigaeth.

Isod i'r dde: Llun agos o'r twr.
Llun hawlfraint gan Jennifer Rachel Conover.

Mae hwn yn un o ddarganfyddiadau mwyaf trawiadol y ganrif hon a byddai'n sicr wedi mynd ar ddifancoll oni bai am ymdrechion diflino'r teulu Pritchard-Gibson, y bu bron iddynt fynd yn fethdalwyr yn y broses o geisio cadw Pen y Bryn fel ymddiriedolaeth a'i achub rhag y datblygwyr a oedd mor frwd dros ei lyncu. Mae Ellis Peters, a ysgrifennodd bedwar llyfr am linach Llywelyn wedi cyfrannu gyda chynnig hael o gymorth fel ag y mae Sharon Kay Penman a ysgrifennodd y drioled wych 'Here be Dragons' am y Tywysogion Llywelyn. Dywed yr Athro David Austin o Brifysgol Cymru, un o brif archaeolegwyr yr oesoedd canol yn y byd, "Mae hwn yn safle o bwys aruthrol yn ysbryd Cymru'. O'r diwedd mae'r Comisiwn Brenhinol dros Henebion wedi datgan mai hwn 'yw'r safle pwysicaf i'w ddarganfod yng Nhymru y ganrif hon'. Yn wir mae'n ffodus bod Kathryn Gibson yn ymchwilwraig hanesyddol mor ddawnus; heb ei hymdrechion i olrain dros 1,000 o lythyrau a dogfennau eraill mewn amryw o archifdai ledled Cymru ni fyddai wedi cael ei brofi mai hwn oedd y plasty. Yn eironig, roedd y teulu Pritchard-Gibson wedi symud yno fel y byddai Kathryn yn agos i archifdai Bangor, ond ni freuddwydiodd erioed y byddai'n ymchwilio i'w chartref ei hun. Dywedodd wrthyf gyda thristwch fod y cyn-berchennog wedi darganfod papurau mewn cilfach yn wal y sgubor a fu gynt yn gapel. Yn anffodus, gan nad oedd y papurau mewn Cymraeg na Saesneg fe'u dinistrwyd gan y ferch. Mae'n debyg eu bod naill ai mewn Ffrangeg neu Ladin. Gobaith Kathryn yw y byddant yn darganfod papurau eraill wrth iddynt archwilio'r adeiladau'n fwy trylwyr, gan agor ffenestri a waliau a seliwyd mor bell yn ôl. Mae twnneli'n ymestyn rai milltiroedd tua'r môr i un cyfeiriad a thua'r mynydd i'r cyfeiriad arall. Byddai'r rhain wedi cael eu defnyddio fel llwybrau dianc mewn argyfwng, cam doeth gan fod y Prydeinwyr gymaint yn fwy niferus na hwy. Mae Kathryn a'i theulu hefyd wedi darganfod nifer o wrthrychau Rhufeinig, yn y ty ac yn yr ardd, ac arddangosir llawer o'r rhain ar lawr cyntaf y ty. Mae'r teulu Pritchard-Gibson wedi buddsoddi'u holl gynilion yn y prosiect yma ac wedi goddef tâp coch di-ddiwedd wrth ymdrin â biwrocratiaeth llywodraethol. Am gyfnod edrychai'n debyg eu bod yn brwydro i golli, ond drwy lawer iawn o waith caled ar eu rhan mae'r perygl hwnnw y tu cefn iddynt bellach ac mae'r ymddiriedolaeth wedi gwneud cais am grant ar gyfer archwiliad trylwyr o'r safle. Mae Kathryn ar ben ei digon wrth ddisgrifio'i darganfyddiadau diweddaraf, 'Mae'n antur ryfeddol. Mae'n hanes byw.' Mae hi ar ganol sefydlu arddangosfa gynhwysfawr iawn yn y ty ei hun yn ogystal ag yn y capel. Er mai eu cartref yw hwn mae Pen y Bryn yn agored i'r cyhoedd a derbynnir gyda diolch bob rhodd i'r ymddiriedolaeth. Cysylltwch â'r teulu Pritchard-Gibson i wneud apwyntiad. Mae'n stori dylwyth teg wedi dod yn wir - dim ond yng Nghymru y gallai fferm ieir fod wedi troi'n blasty!

I'r dde: Arddangosfa Kathryn Pritchard-Gibson yng nghapel Pen y Bryn, plasty colledig y Tywysogion Llywelyn.
Llun hawlfraint gan Jennifer Rachel Conover.

Os ydych am ymweld: Ymddiriedolaeth Aber
Pen y Bryn
Abergwyngregyn ger Bangor
Gwynedd
LL33 OLA
Cymru
Ff: +01248 681150

Jennifer Rachel Conover
1261 Seminole Dr.
Ft. Lauderdale, FL 33304
Ff: / ffacs: (954) 565-8520

 

Gwybodaeth bellach am Llywelyn ap Iorwerth
Gwybodaeth bellach am Llywelyn ap Gruffydd
Erthyglau eraill o Erthygl y Mis
Yn i'r Mynegai Cestyll, data Cestyll, neu Mapiau Lleoli Cestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jennifer Rahel Conover and the Castles of Wales Website